Happy Stakeholders around a table

Happy Stakeholders around a table

Pam mae'r Senedd yn gwerthfawrogi tystiolaeth amrywiol

Cyhoeddwyd 21/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/12/2023   |   Amser darllen munud

Mae amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd democratiaeth gynrychioliadol. Mae'n ddyletswydd ar seneddau i wneud penderfyniadau wedi'u llywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r broses o graffu, cynrychioli, a gwneud penderfyniadau yn gryfach ac yn fwy effeithiol os cânt eu gwreiddio mewn amrywiaeth o wahanol safbwyntiau a phrofiadau byw.

Rôl y Senedd yw craffu ar weithredoedd a gwariant y llywodraeth, a gwneud cyfreithiau effeithiol sy'n gweithio i bawb. Mae pwyllgorau'r Senedd yn gwneud hyn drwy ymgysylltu â phobl Cymru a chasglu tystiolaeth mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys yn ysgrifenedig, mewn gwrandawiadau llafar, a thrwy ymgysylltu'n uniongyrchol â dinasyddion. Mae'n hanfodol bod pwyllgorau'n clywed amrywiaeth eang o safbwyntiau a phrofiadau.

Mae arbenigedd a safbwyntiau amrywiol hefyd yn helpu i greu sgwrs fwy deinamig ac yn darparu her a phrawf mwy trwyadl ar gyfer y cynigion a wneir. Rydym am i bobl Cymru deimlo bod eu llais yn cael ei glywed a'i werthfawrogi gan y Senedd, pwy bynnag ydynt, ble bynnag y maent yn byw, a beth bynnag fo'u safbwynt.

Beth ydym ni'n ei olygu wrth amrywiaeth?

Daw amrywiaeth ar sawl ffurf. Rydym am sicrhau bod y dystiolaeth a ddefnyddir gan bwyllgorau'r Senedd yn dod o ystod amrywiol a chynhwysol o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau - yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt gan fater sy’n cael ei ystyried.

Monitro amrywiaeth

Diweddariad: Ar 3 Gorffennaf 2023, ystyriodd Fforwm y Cadeiryddion ganlyniadau’r ail gynllun peilot, a chytunodd i gyflwyno’r gwaith casglu data hwn fel mater o drefn o fis Medi 2023.

Yn dilyn cyfres o gynlluniau peilot, o fis Medi 2023, bydd pwyllgorau’r Senedd yn monitro amrywiaeth y dystiolaeth sy’n dod i law fel mater o drefn.

Bydd y gwaith monitro hwn yn canolbwyntio ar gyfranwyr ‘disgresiwn’ (h.y. cyfranwyr sy’n unigolion, gweithwyr proffesiynol neu sefydliadau sy’n cynrychioli sectorau heblaw Llywodraeth Cymru), a ffocws ar bwyllgorau sydd â disgresiwn eang dros eu rhaglenni gwaith a ffyrdd o weithio.

Gwahoddir pobl sy'n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, tystiolaeth lafar, neu sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion i sôn wrthym amdanynt eu hunain a’r sefydliadau maent yn eu cynrychioli. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well pwy yw’r rhai sy’n rhoi tystiolaeth, pwy yw’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny, a beth allai’r rhwystrau fod o ran cyfranogi. Bydd yn ein galluogi i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn rhwystrau a chynllunio dulliau newydd o gasglu barn ac arbenigedd, mewn senedd sy'n gweithio i bawb.

Cyn penderfynu symud i fonitro parhaus, ystyriodd Fforwm y Cadeiryddion ganlyniadau'r ail beilot (a gynhelir o fis Hydref 2022 i fis Mai 2023) a bydd adroddiad ar y data hwn yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Diogelu eich data

Bydd data monitro amrywiaeth yn ddienw, ac mae’r penderfyniad i’w rhoi yn gwbl wirfoddol. Gallwch ddarllen mwy am sut y byddwn yn diogelu eich data yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella amrywiaeth tystiolaeth

Mae timau ymgysylltu'r Senedd yn gweithio gyda chymunedau a dinasyddion i annog cyfranogiad ehangach yng ngwaith y pwyllgorau. Mae rhaglen cyfnewid gwybodaeth Ymchwil y Senedd hefyd yn ceisio gwella amrywiaeth y dystiolaeth ymchwil sydd ar gael i’r Aelodau a phwyllgorau.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am fonitro amrywiaeth i gael gwybod mwy.

 

Cwestiynau cyffredin

Mae'r dudalen hon yn rhoi atebion i gwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch gwaith monitro amrywiaeth gan bwyllgorau'r Senedd.

Beth yw monitro amrywiaeth?

Monitro amrywiaeth yw'r arfer o gasglu gwybodaeth am bwy yw pobl a pha nodweddion a allai fod ganddynt. Gall y nodweddion hyn gynnwys: oedran; rhyw; anabledd; hil; a chyfeiriadedd rhywiol ac fe'u gelwir yn ffurfiol yn 'nodweddion gwarchodedig'.

Mae pwyllgorau’r Senedd yn monitro amrywiaeth drwy wahodd pobl sy'n gweithio gyda ni (p'un ai trwy gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, cyfrannu tystiolaeth lafar, neu gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion) i ddweud ychydig mwy wrthym amdanynt eu hunain a'r sefydliadau y maent yn eu cynrychioli. Mae’r ymatebion a geir yn helpu cymunedau’r Senedd i ddeall yn well pwy yw’r rhai sy’n rhoi tystiolaeth, pwy yw’r rhai nad ydynt yn gwneud hynny, a beth allai’r rhwystrau fod o ran cyfranogi.

Hefyd, gelwir monitro amrywiaeth yn 'fonitro cydraddoldeb' neu 'monitro cyfle cyfartal'.

Pam mae pwyllgorau'r Senedd yn monitro amrywiaeth?

Mae monitro amrywiaeth yn ddefnyddiol mewn sawl ffordd. Mae'n galluogi pwyllgorau'r Senedd i ddeall yn well pwy sy'n rhoi tystiolaeth ac ymgysylltu â'u gwaith. Rôl y Senedd yw craffu ar weithredoedd a gwariant y llywodraeth, a gwneud cyfreithiau effeithiol sy'n gweithio i bawb. Mae clywed ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau yn helpu pwyllgorau i ymgymryd â gwaith craffu mwy trwyadl a gwneud cyfreithiau gwell.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch pam mae pwyllgorau'r Senedd yn gwerthfawrogi amrywiaeth, darllenwch ddatganiad amrywiaeth pwyllgorau'r Senedd.

Sut mae pwyllgorau'r Senedd yn monitro amrywiaeth?

Rydym yn gofyn i bobl lenwi arolwg gwirfoddol i roi gwybodaeth amdanynt eu hunain, y sefydliad y maent yn ei gynrychioli (os yw'n berthnasol) a'u profiad o gymryd rhan mewn gweithgarwch pwyllgorau. Nid oes rhaid i chi lenwi’r arolwg. Bydd pob cwestiwn amdanoch chi fel unigolyn yn cynnwys opsiwn 'mae'n well gennyf beidio â dweud'. Ni ofynnir i chi roi unrhyw wybodaeth ategol y gellir ei defnyddio i’ch adnabod fel eich enw neu fanylion cyswllt.

Byddwn hefyd yn dadansoddi gwybodaeth sydd gennym eisoes am bobl a sefydliadau sy'n rhoi tystiolaeth mewn cyfarfodydd pwyllgorau. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut y byddwn yn gwneud hyn yn hysbysiad preifatrwydd pwyllgorau’r Senedd.

A oes rhaid i mi lenwi'r arolwg bob tro y byddaf yn rhoi tystiolaeth?

Lle bo modd, oes. Er bod ymateb i'r arolwg yn gwbl wirfoddol, po fwyaf o ymatebion a gawn, gorau oll fydd y data yn y pen draw. Rydym yn gwerthfawrogi bod eich amser yn werthfawr, ond drwy ymateb bob tro y byddwch yn rhoi tystiolaeth, byddwch yn ein helpu i adeiladu darlun llawn o bwy mae pwyllgorau'r Senedd yn gweithio gyda hwy. Bydd hyn yn ein helpu i wneud penderfyniadau gwell sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn nes ymlaen.

Faint o amser mae'n ei gymryd i lenwi arolwg?

Ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i lenwi'r arolwg.

Beth fyddwch chi'n ei wneud gyda fy ymateb(ion)? Pryd fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi?

Bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i gyfrannu at adroddiadau monitro rheolaidd, ac rydym yn rhagweld y byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd. Pan fydd gwybodaeth wedi'i chasglu drwy arolygon monitro amrywiaeth, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau na ellir adnabod unigolion yn y wybodaeth a gyhoeddir gennym. Er y gallai fod yn bosibl mewn rhai achosion i adnabod unigolion o'u hymatebion, byddwn ond yn cyhoeddi gwybodaeth ystadegol mewn setiau data mor fawr fel ei fod yn golygu na fydd yn bosibl adnabod unigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, darllenwch y dudalen polisi preifatrwydd monitro amrywiaeth.

Beth ydych chi'n mynd i'w wneud â'r canfyddiadau?

Bydd y canfyddiadau a'r dadansoddiad ystadegol yn cael eu rhannu â swyddogion Comisiwn y Senedd ac Aelodau etholedig. Gall hyn gynnwys y Llywydd, Comisiwn y Senedd, Fforwm y Cadeiryddion a phwyllgorau'r Senedd. Bydd y canfyddiadau'n cael eu defnyddio gan swyddogion ac Aelodau etholedig i nodi tueddiadau o ran cyfranogiad ac ymgysylltiad â gwaith pwyllgorau'r Senedd.

Bydd y canlyniadau'n cael eu defnyddio i gyfrannu at adroddiadau monitro rheolaidd, ac rydym yn rhagweld y byddant yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Senedd.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, darllenwch y dudalen hysbysiad preifatrwydd monitro amrywiaeth

At ble ddylwn i fynd os oes angen cyngor neu gymorth arnaf ynglŷn â’r materion a godwyd yn yr arolwg?

Mae nifer o sefydliadau allanol a all ddarparu cyngor a chefnogaeth i unigolion mewn perthynas â'r materion sy'n cael sylw yn yr arolwg monitro. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.