


Cymryd rhan mewn pwyllgor
Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/01/2021   |   Amser darllen munudau
Mae’r Senedd yn gweithio gydag ystod eang o unigolion a grwpiau wrth graffu ar bolisi a deddfwriaeth. Nod yr adran hon yw rhoi’r wybodaeth y mae ei hangen arnoch os bydd gofyn i chi gymryd rhan yng ngwaith pwyllgor.
Yn yr adran hon
- Paratoi tystiolaeth
- Pwyllgorau: Pwy yw pwy
- Paratoi at fynd i gyfarfod pwyllgor
- Ar ddiwrnod y cyfarfod
- Mathau eraill o dystiolaeth
- Cyflwyno adroddiadau
Os ydych wedi gweithio gyda phwyllgorau o’r blaen, efallai yr hoffech atgoffa’ch hun drwy ddarllen ein canllawiau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig a digidol(Linc i'w ychwanegu).
Os nad ydych wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgor, cofiwch y gallwch ddilyn gwaith pob pwyllgor ar dudalen y pwyllgorau(Linc i'w ychwanegu).
Mae’r Senedd yn ymrwymedig i ymgysylltu â phobl Cymru ynghylch ei waith. Os ydych yn teimlo bod angen addasu’r broses arferol er mwyn ei gwneud yn haws i chi wneud cyfraniad llawn, mae croeso i chi drafod eich anghenion gyda’r Tîm Clercio perthnasol.
Dogfennau defnyddiol
- Cymryd rhan mewn pwyllgor - canllawiau ar bwyllgorau a sut y maent yn gweithio
- Canllaw i'r broses ddeddfu - canllawiau ar y broses o greu deddfau yn Senedd Cymru
- Polisi Preifatrwydd Pwyllgorau'r Senedd
- Cynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd
- "Cyfle i ddisgleirio" gan Chwarae Teg - Canllawiau i dystion wedi'u llunio gan Chwarae Teg mewn partneriaeth â'r Senedd fel rhan o raglen hyfforddi ar y cyd ar gyfer Tystion Arbenigol yn y dyfodol.
- Adroddiad Data Pwyllgorau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru