Pwyllgorau: Pwy yw pwy?

Cyhoeddwyd 01/08/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2023   |   Amser darllen munudau

Yn ôl i Paratoi tystiolaeth | Ymlaen i Paratoi at fynd i gyfarfod pwyllgor

Mae pwyllgor yn grwp sy'n cynnwys Aelodau o'r Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd.

Caiff un o Aelodau hyn ei ethol gan y Senedd i fod yn gadeirydd y pwyllgor. Yn ystod cyfarfod pwyllgor, bydd cadeirydd y pwyllgor yn eistedd ym mhen y bwrdd fel arfer, ac mae'n gyfrifol am redeg y cyfarfod. Bydd y Cadeirydd yn ceisio sicrhau bod pob aelod o'r pwyllgor yn cael yr un cyfle i ofyn cwestiynau a bod pob tyst yn cael yr un cyfle i ymateb.

Mae nifer yr aelodau ar bwyllgor yn amrywio, ac mae tudalen we y pwyllgor yn rest enwau'r Aelodau sy’n rhan o’r pwyllgor.

Os na all Aelod fynd i gyfarfod penodol o’r pwyllgor, gall ofyn i aelod arall o’i blaid wleidyddol i fynd yn ei le.

Nid yw Gweinidogion yn aelodau o bwyllgorau.

Yn ogystal ag aelodau'r pwyllgor, gall nifer o swyddogion fod yn bresennol yn y cyfarfod:

  • Mae Clerc y Pwyllgor yn cynghori'r cadeirydd ar faterion gweithdrefnol ac mae'n gyfrifol am redeg busnes y pwyllgor yn gyffredinol;
  • Mae Dirprwy Glerc y Pwyllgor yn cynorthwyo'r clerc gyda'i ddyletswyddau ac yn gwneud nodiadau o'r materion allweddol sy'n codi yn ystod y cyfarfod;
  • Mae Swyddog Cofnod y Trafodion yn gwneud nodiadau drwy gydol y cyfarfod er mwyn cyhoeddi trawsgrifiad llawn o'r trafodion;
  • Mae Ymchwilydd yn darparu nodiadau briffio ysgrifenedig i aelodau'r pwyllgor ynghyd â rhagor o gyngor a gwybodaeth yn ystod y cyfarfod os oes angen. Maent yn dilyn trafodion y cyfarfod er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol;
  • Mae Cynghorwyr Cyfreithiol yn cynghori'r pwyllgor ar bwyntiau yn ymwneud â'r gyfraith ac unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi yn ystod y cyfarfod;
  • Mae Swyddog Cymorth y Pwyllgor yn tywys y tystion i mewn ac allan o'r ystafell gyfarfod ac yn egluro'r agweddau ymarferol iddynt, fel sut i ddefnyddio'r clustffonau. Mae swyddog cymorth y pwyllgor wrth law i gynorthwyo'r clerc a'r dirprwy glerc yn ystod y cyfarfod;
  • Mae Cyfieithwyr ar y Pryd a Pheirianwyr Darlledu y tu ôl i'r sgriniau gwydr tywyll yn yr ystafelloedd pwyllgora, i ddarparu cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ac i sicrhau bod unrhyw dechnoleg a ddefnyddir yn y cyfarfod yn gweithio'n iawn.