Craffu ar wariant cyhoeddus

Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Bob blwyddyn, bydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio sut y bydd yn gwario arian cyhoeddus.

Caiff y wybodaeth hon ei chyhoeddi yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth.

 

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych ar y gyllideb ddrafft yn ei chyfanrwydd. Mae Pwyllgorau eraill yn edrych ar rannau o'r gyllideb ddrafft sy'n ymwneud â'u meysydd pwnc. Pwrpas y gwaith hwn yw archwilio cynlluniau gwariant.

Dyma’r hyn y bydd y Pwyllgorau’n ei ystyried:

  • a yw’r cynlluniau'n glir
  • a all Llywodraeth Cymru esbonio, a dangos, sut mae ei chynlluniau’n deg, a sut mae ei gwariant yn sicrhau gwerth am arian i bawb

Gall Pwyllgorau gynnig newidiadau i gynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru.

Rhaid iddynt sicrhau eu bod yn esbonio sut y dylai’r newidiadau gael eu hariannu (e.e. os ydynt am wario mwy ar rywbeth, mae'n rhaid iddynt ddweud o ble y dylai'r arian hwn ddod).

 

Craffu ar wariant blaenorol Llywodraeth Cymru

Mae Pwyllgorau hefyd yn edrych ar sut mae’r Llywodraeth wedi gwario arian yn y gorffennol.

Mae hyn yn eu helpu i wneud awgrymiadau gwybodus am sut y gellir defnyddio arian yn well. Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus sy’n gwneud llawer o’r gwaith hwn.

 

 

 

Ewch i’r Pwyllgor Cyllid

 


 

Archwilio’r pwnc

Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd

Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor

Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau

Cymryd rhan mewn pwyllgorau

Sut i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau

Canllaw i ymddangos gerbron pwyllgor y Senedd