Ymchwiliadau

Cyhoeddwyd 26/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/09/2023   |   Amser darllen munud

Pan fydd Pwyllgor yn gwneud gwaith ar bwnc neu faes polisi penodol, fe'i gelwir yn 'ymchwiliad'.

Mae Pwyllgorau’n dewis cynnal ymchwiliadau am lawer o resymau, megis:

  • ymateb i ddigwyddiadau proffil uchel
  • gwirio cynnydd mewn perthynas â rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru neu asiantaeth arall wedi ymrwymo i'w wneud
  • dylanwadu ar bolisi neu gyfraith

Y Pwyllgorau eu hunain sy’n dewis y rhan fwyaf o ymchwiliadau, ond gall y Senedd eu dewis nhw hefyd.

 

Sut mae ymchwiliadau’n gweithio

Cylch gorchwyl

Ar ddechrau ymchwiliad, mae pwyllgor fel arfer yn cyhoeddi amlinelliad yn egluro beth y bydd yn ei gynnwys.

Enw'r amlinelliad hwn yw cylch gorchwyl yr ymchwiliad.

 

Gofyn am eich sylwadau a'ch profiadau

Mae pwyllgor yn aml yn gofyn i bobl rannu eu safbwyntiau a'u profiadau fel rhan o ymchwiliad.

Fel arfer, maent yn gwneud hyn drwy drefnu ymgynghoriad cyhoeddus yn seiliedig ar y cylch gorchwyl.

P'un a ydych yn unigolyn neu'n rhan o sefydliad, mae croeso ichi rannu eich safbwyntiau, eich profiadau a'ch manylion perthnasol gyda'r pwyllgor.

Gwneir hyn yn ysgrifenedig fel arfer, ond os yw'n well gennych ddefnyddio ffyrdd eraill fel fideos neu luniau, gallwch gysylltu â'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor. Byddant yn gwneud eu gorau i'ch helpu.

 

Sesiynau tystiolaeth

Mae Pwyllgorau yn aml yn cynnal sesiynau tystiolaeth. Mae aelodau'n casglu tystiolaeth drwy ofyn cwestiynau i arbenigwyr, sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd. Mae’r sesiynau hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, sy'n golygu eu bod yn cael eu darlledu ar-lein a’u bod yn agored i'r cyhoedd.

Mae Pwyllgorau yn aml yn ymweld â chymunedau, sefydliadau a busnesau. Mae gwneud hyn yn eu helpu i glywed yn uniongyrchol gan bobl sydd â phrofiadau bywyd go iawn.

 

Gorffen ymchwiliad

Ar ddiwedd ymchwiliad, bydd Pwyllgorau fel arfer yn cyhoeddi adroddiad. Mae adroddiadau yn dwyn ynghyd yr holl dystiolaeth mewn un lle. Mae Pwyllgorau'n gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru, ac i unrhyw gorff perthnasol arall.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymateb i ddweud a yw’n cytuno â’r argymhellion ai peidio, pam, a sut y bydd yn gweithredu yn eu cylch.

Bydd Pwyllgorau weithiau’n edrych yn ôl ar yr argymhellion ac unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro a bod heffaith yr argymhellion yn cael ei mesur.

 

 

 

Gweld pob ymgynghoriad agored

 

 


 

Archwilio’r pwnc

Gweld holl Bwyllgorau’r Senedd

Gweld yr holl ymgynghoriadau sydd ar agor

Amserlen o gyfarfodydd y pwyllgorau

Cymryd rhan mewn pwyllgorau

Sut i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau

Canllaw i ymddangos gerbron pwyllgor y Senedd