Senedd i bawb

Credwn fod creu gweithle amrywiol a chynhwysol sy’n dangos parch i bawb nid yn unig o fudd i’n gweithwyr ond hefyd yn gwella ein gallu i gynrychioli ac ymgysylltu’n well â phobl Cymru.

Drwy ddosbarthu’r adroddiad hwn, rydym yn gobeithio annog tryloywder ac atebolrwydd yn ein hymdrechion.

Gan fyfyrio ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud, yn ogystal â'r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud nesaf, edrychwn ymlaen at barhau â'r daith sydd o'n blaenau.

Uchafbwyntiau

Ein Huchafbwyntiau drwy’r flwyddyn

Eleni, rydym wedi parhau i wneud cynnydd tuag at fod yn sefydliad mwy cynhwysol.

Roeddem yn falch o groesawu ein Interniaid Graddedig cyntaf ar y cynllun prentisiaeth YMLAEN. Roeddent yn ymgymryd â’n interniaethau hyfforddi ar gyfer graddedigion o gefndir lleiafrifoedd ethnig.

Gwnaethom ymestyn i gymunedau ledled Cymru i annog cyfranogiad democrataidd ac ymgysylltu â gwaith y Senedd, a chynorthwyo ymchwiliadau’r pwyllgorau.

Gwnaethom fonitro amrywiaeth tystion y pwyllgorau i sicrhau bod Aelodau'r pwyllgorau yn clywed gan amrywiaeth o leisiau.

Gwnaethom barhau i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i ddatblygu ymwybyddiaeth ddemocrataidd ac i gefnogi Senedd Ieuenctid Cymru.

Croesawyd pobl i arddangosfeydd sy’n dathlu amrywiaeth yng Nghymru, gan gynnwys arddangosfeydd ar bobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu, ffoaduriaid ac arddangosfa ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon.

Fe wnaethom ddechrau casglu’r wybodaeth gefndir economaidd-gymdeithasol ar gyfer ein staff ac ar gyfer ymgeiswyr am swyddi, er mwyn deall yn well pwy sy’n gweithio i ni a phwy sy’n ein gweld yn gyflogwr o ddewis.

Parhau i ddatblygu fel sefydliad cynhwysol lle mae staff wedi cael yr hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnynt i fyw yn ôl gwerthoedd ein sefydliad.

Datblygwyd LEAD - ein rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer ein cydweithwyr o Leiafrifoedd Ethnig.

Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gweithgareddau a chynllunio strategol

Mae Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sail i'n gweithgareddau pob dydd a'n gwaith cynllunio strategol.

Mae cydweithwyr ar draws y sefydliad yn parhau i gynnwys amrywiaeth a chynhwysiant yn eu gwaith.

Gan gynnwys gwella hygyrchedd ein hystâd i bob ymwelydd, a chydweithio â phartneriaid strategol allanol i’n helpu i wreiddio cynhwysiant ymhellach.


Darllenwch ragor 

Dau berson yn eistedd ar risiau llechfaen adeilad y Senedd.
Adeilad y Senedd wedi’i oleuo yn lliwiau’r enfys.

Arweinyddiaeth a diwylliant sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd

Meithrin gweithle ac amgylchedd seneddol cynhwysol.

Rydym yn parhau â'n hymrwymiad i greu gweithle cynhwysol, ac yn cefnogi lles ein cydweithwyr ar yr un pryd.


Darllenwch ragor

Lle cynrychioliadol, cynhwysol i weithio ynddo

Profiad unigryw, gwerth chweil i weithwyr, a hynny wrth galon democratiaeth yng Nghymru.

Ynghyd â gwneud yn siŵr bod ein gweithlu’n adlewyrchu’r gymdeithas y mae’r Senedd yn ei gwasanaethu, rydym yn creu amgylchedd lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i wireddu eu llawn botensial.


Darllenwch ragor

Tri pherson yn siarad o amgylch bwrdd.
Cyflwynydd yn sefyll ar lwyfan yn annerch torf.

Senedd hygyrch, gynhwysol i bobl Cymru

Yn estyn allan a chlywed gan gymunedau ledled Cymru.

Rydym yn parhau i wneud y Senedd yn senedd gynhwysol, hygyrch drwy nodi a chael gwared ar rwystrau sy’n atal dinasyddion rhag cymryd rhan yn ein gwaith.


Darllenwch ragor

Adroddiadau ychwanegol

Adroddiad ar y gweithlu, ar recriwtio, ar y bwlch cyflog ac a’r archwiliad ar gyflog cyfartal

Bob blwyddyn, rydym yn casglu, yn dadansoddi ac yn cyhoeddi data amrywiaeth ar broffil ein gweithlu, ein gweithgarwch recriwtio a chyflog y staff.

Rydym yn defnyddio’r dadansoddiadau hyn i helpu i lywio ein dull o fod yn recriwtiwr a chyflogwr cynhwysol, er mwyn diwallu anghenion amrywiol staff a cheisio sicrhau bod ein gweithlu’n cynrychioli amrywiaeth y cyhoedd yr ydym yn ei wasanaethu.

 

Lawrlwytho’r crynodeb

Tyrfa fawr yn adeilad y Senedd.

Lawrlwythwch ein hadroddiadau diweddaraf