Ein Gwerthoedd Caffael

Cynaliadwyedd

Rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd ein proses gaffael.

Ystyr caffael cynaliadwy yw caffael sy'n defnyddio ein dylanwad mewn ffyrdd sydd o fudd i gymdeithas, yr economi a'r amgylchedd. Mae'n fater o edrych y tu hwnt i'r costau tymor byr, ar benderfyniadau sy'n seiliedig ar gostau oes gyfan, gan gynnwys goblygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol. Rydym am brynu eitemau cynaliadwy sy'n cynnig gwerth da - nid eitemau rhad nad ydynt yn gynaliadwy.

Cyfle cyfartal

Byddwn yn sicrhau bod ein prosesau caffael yn rhoi sylw llawn i gydraddoldeb.

Byddwn yn cydymffurfio ā'r holl reoliadau statudol perthnasol. Pan fo'n briodol, byddwn yn cynnwys ystyriaethau cydraddoldeb mewn manylebau, ac yn y prosesau ar gyfer gwerthuso cyflenwyr, dyfarnu contractau a rheoli perfformiad contractwyr.

Gwasanaethau o ansawdd

Darparu gwasanaethau o'r safon y mae gan Aelodau, staff a'r cyhoedd yr hawl i'w disgwyl.

Rydym yn defnyddio prosesau caffael i ddarparu ein gwasanaethau. Byddwn yn cydweithredu gyda'n cyflenwyr, gan sefydlu disgwyliadau a safonau eglur; bod yn realistig; cyfathrebu'n agored; a chydbwyso cost ā ffactorau ansawdd.

Cefnogi'r gymuned

Cefnogi'r gymuned drwy annog mentrau bach a chanolig.

Byddwn yn gymdeithasol gyfrifol ac yn cymryd camau pendant i annog cyfranogiad Busnesau Bach a Chanolig er mwyn rhannu manteision economaidd ein prosesau caffael yn deg. Byddwn yn sicrhau bod y cyfleoedd i ymgeisio am ein contractau ar gael i gymaint o fusnesau ag y bo modd drwy hysbysebu, lle bynnag y bo'n ymarferol, drwy GwerthwchiGymru.co.uk

Gwerth am arian

Sicrhau gwerth am arian.

Rydym yn gwario arian trethdalwyr, felly nid ydym am fod yn wastraffus! Byddwn yn chwilio am y fargen orau y gallwn ddod o hyd iddi - ond nid dim ond y rhataf. Mae angen inni gydbwyso ein Gwerthoedd i gyd mewn ffordd sy'n rhoi'r hyn yr ydym am ei gael, am bris sy'n rhoi gwerth da am arian. Nid digwyddiad unwaith yn unig fydd hwn chwaith, ond byddwn yn gweithio gyda'n cyflenwyr tymor hwy i nodi ffyrdd o arbed arian drwy fod yn fwy effeithlon a gwella'n barhaus y nwyddau a'r gwasanaethau yr ydym yn eu caffael.

Tryloywder

Gweithredu'n broffesiynol, yn deg, yn onest ac yn dryloyw.

Mae ymddiriedaeth ac argraffiadau'r cyhoedd yn bwysig i ni. Rydym am gael y fargen orau i Gymru, a'r unig ffordd o'i chael yw drwy weithredu mewn modd sy'n hyrwyddo arferion o'r safonau uchaf bosibl.