Sut i gynnig am gontract gan Senedd Cymru

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/04/2024   |   Amser darllen munudau

Cystadleuaeth

Er mwyn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, mae ein contractau ni fel rheol yn amodol ar gystadleuaeth.

Isel eu gwerth (o dan £5 mil)

Caniateir eithriadau yn achos contractau isel eu gwerth wrth inni geisio cadw ein costau gweinyddol mor isel â phosibl. Pan fydd amcan werth y contract o dan £5000, bydd ein staff yn gwneud ymholiadau ynghylch y pris a'r ansawdd cyn dyfarnu contract. Cadarnheir dyfarnu contract drwy orchymyn prynu. Mae ein Telerau ac Amodau Safonol ar gyfer Contractau yn gymwys bob amser.

Dyfynbrisiau (£5 mil ond o dan £25 mil)

Byddwn yn gofyn am ddyfynbrisiau ffurfiol ar gyfer contractau sydd â'u hamcan werth rhwng £5000 a £25,000. Mae hyn yn golygu gofyn am dri dyfynbris ysgrifenedig o leiaf. Os gwahoddir chi i roi dyfynbris am gontract, gallwch ddisgwyl cael eich hysbysu ynghylch y meini prawf sy'n berthnasol wrth asesu'ch dyfynbris a phwysigrwydd cymharol (pwysoliadau) pob maen prawf. Mae hyn yn gadael ichi farnu ynghylch costau ac ansawdd wrth ichi bennu'ch dyfynbris. Asesir y dyfynbrisiau yn erbyn y meini prawf. Dyfernir y contract am y dyfynbris sydd yn ennill y sgôr uchaf a chadarnheir hyn drwy lythyr a thrwy orchymyn prynu. Bydd y llythyr cadarnhau yn dangos sut y bu inni sgorio ac asesu'ch dyfynbris. Os nad oedd eich dyfynbris yn llwyddiannus, byddwn yn dweud wrthych i bwy y dyfarnwyd y contract, a beth oedd ei sgôr gymharol. Hefyd, byddwn yn cynnig manylu ymhellach os ydych yn dymuno hynny. Mae ein Telerau ac Amodau Safonol ar gyfer Contractau yn gymwys bob amser.

Tendrau (dros £25K)

Unwaith bydd gwerth y cytundeb yn codi dros £25,000 rydym yn mabwysiadu proses tendro fwy ffurfiol.

Gwahoddiad i dendro

Hysbysebir y cyfleoedd am gontract ar wefan GwerthwchiGymru. Os byddwch yn aflwyddiannus, mae modd i chi ofyn i ni egluro pam. Bydd y dogfennau tendro yn nodi'r meini prawf a ddefnyddir i asesu eich cynnig, a phwysigrwydd perthynol pob maen prawf. Bydd hyn yn hwyluso pethau o ran barnu rhwng cost ac ansawdd wrth ichi lunio eich tendr. Caiff y broses dendro ei rheoli drwy ein system eDendro. Asesir y tendrau (gan banel o'n staff fel arfer) ac yna byddwn yn dyfarnu'r contract, drwy anfon llythyr dyfarnu contract ffurfiol, ac archeb brynu. Noder, y caiff y contract ei ffurfio cyn gynted ag y caiff y llythyr dyfarnu ei anfon. Os byddwch yn aflwyddiannus, dywedir wrthych sut y gwnaethom sgorio a graddio eich tendr. Byddwn yn dweud wrthych i bwy y dyfarnwyd y contract, a sut y gwnaethant sgorio, a byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi os bydd angen. Bydd ein Telerau ac Amodau Safonol ar gyfer Contractau, yn berthnasol bob amser.

Contractau dros £122,976 o fis Ionawr 2020

Ar gyfer contractau â'u hamcan werth sy’n uwch na’r trothwy hwn, byddwn yn gosod hysbysiad am y contract ar wefan Dod o hyd i wasanaethau tendro a GwerthwchiGymru. Mae'r trefniadau tendro'n debyg i'r uchod ond y caiff amserlen y contract ei phennu yn ôl y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus. Caniateir cryn dipyn yn rhagor o amser ar gyfer mynegi diddordeb a thendro.

Amodau Contract Safonol ar Gyfer Prynu Nwyddau (PDF, 326KB)

Amodau Contract Safonol ar Gyfer Prynu Gwasanaethau (PDF, 400KB)

Atodlen Contractau (PDF, 244KB)