Mae Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 Comisiwn y Senedd yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod anghenion ein staff, a'r Aelodau a'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Bydd y strategaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod ein gwerthoedd corfforaethol PARCH, ANGERDD a BALCHDER yn parhau i lywio ein gwaith.
Ein blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf:
- Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sail i'n gweithgareddau bob dydd a'n cynllunio strategol
- Arweinyddiaeth a diwylliant sy'n cael ei arwain gan werthoedd
- Lle cynrychioliadol, cynhwysol i weithio
- Senedd gynhwysol, hygyrch i bobl Cymru
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 (pdf 5.9 MB)
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 - Crynodeb
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 – Hawdd ei Deall
Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 – Iaith Arwyddion Prydain
I gyd-fynd â'n Strategaeth, rydym yn cydweithio â thimau drwy'r sefydliad i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn gydnaws â'u cynlluniau ar gyfer eu meysydd gwasanaeth. Rydym yn defnyddio canlyniadau ein hymgynghoriad a'r gweithgareddau cyfranogi eraill rydym wedi'u cyflwyno wrth baratoi'r cynllun gweithredu a gaiff ei gyhoeddi yma ar ôl ei gwblhau.
Strategaethau blaenorol