Ein Strategaeth

Cyhoeddwyd 01/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/06/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 Comisiwn y Senedd yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod anghenion ein staff, a'r Aelodau a'r cyhoedd yr ydym yn eu gwasanaethu wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Bydd y strategaeth hon yn ein helpu i sicrhau bod ein gwerthoedd corfforaethol PARCH, ANGERDD a BALCHDER yn parhau i lywio ein gwaith. 

Ein blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf:

  • Amrywiaeth a Chynhwysiant yn sail i'n gweithgareddau bob dydd a'n cynllunio strategol
  • Arweinyddiaeth a diwylliant sy'n cael ei arwain gan werthoedd
  • Lle cynrychioliadol, cynhwysol i weithio
  • Senedd gynhwysol, hygyrch i bobl Cymru

 

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 (pdf 5.9 MB)

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 - Crynodeb

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 – Hawdd ei Deall

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2022-2026 – Iaith Arwyddion Prydain

 

I gyd-fynd â'n Strategaeth, rydym yn cydweithio â thimau drwy'r sefydliad i ddatblygu cynllun gweithredu a fydd yn gydnaws â'u cynlluniau ar gyfer eu meysydd gwasanaeth. Rydym yn defnyddio canlyniadau ein hymgynghoriad a'r gweithgareddau cyfranogi eraill rydym wedi'u cyflwyno wrth baratoi'r cynllun gweithredu a gaiff ei gyhoeddi yma ar ôl ei gwblhau.

 

Strategaethau blaenorol

 

Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant 2016-21