Ymgynghoriad ar y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant

Hoffem gael eich adborth i helpu i lywio ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd eich cyfraniad yn helpu i ddatblygu Senedd Cymru fel senedd hygyrch a chynhwysol i bobl Cymru.

 

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben yn awr. Diolch i bawb a gymerodd ran.

 

I gael manylion ar sut rydym yn defnyddio ac yn storio eich gwybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.

Cefndir

Cefndir yr ymgynghoriad

Comisiwn y Senedd yw’r enw a roddir ar gorff corfforaethol Senedd Cymru.

Mae Comisiwn y Senedd yn gwasanaethu’r Senedd i hwyluso ei llwyddiant hirdymor fel senedd gref, hygyrch a blaengar sy’n gweithredu’n effeithiol ar gyfer pobl Cymru.

Mae ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer 2016-21 yn cael ei hadnewyddu i adlewyrchu blaenoriaethau strategol Comisiwn y Chweched Senedd .

Amcanion drafft

Rydym wedi datblygu pedwar amcan blaenoriaeth wrth ochr map trywydd i’w cyflawni er mwyn datblygu cynhwysiant fel cyflogwr a sefydliad seneddol.

Mae’r amcanion blaenoriaeth yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Strategaeth a Llywodraethu
  • Diwylliant a Gwerthoedd o ran Arweinyddiaeth
  • Recriwtio a Chyflogaeth
  • Senedd hygyrch, gynhwysol i bobl Cymru

Lawrlwytho amcanion blaenoriaeth drafft

 

Hygyrchedd

Mynediad at wybodaeth

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar ffurf Iaith Arwyddion Prydain ac ar ffurf fersiwn Hawdd ei Darllen.