Cymorth a chyngor

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Rydym yn cydnabod y gall fod adegau yn ystod eich cyflogaeth pan efallai yr hoffech ofyn am gymorth a chyngor. Ynghyd â'ch rheolwr llinell ac aelodau o'r tîm Adnoddau Dynol, ein Cynllun Cymorth i Weithwyr cyfrinachol, y Cynghorydd Iechyd Galwedigaethol a’r rhwydweithiau staff, byddwch hefyd yn cael cyfle i ymaelodi ag un o'n hundebau llafur cydnabyddedig – y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS), IPMS/Prospect a’r First Division Association (FDA).

 

Mae'r tair undeb yn gweithio gyda'i gilydd i drafod telerau ac amodau fel ein system gyflog a’n trefniadau iechyd a diogelwch. Mae swyddogion undeb amser llawn yn gweithio ar y safle a all roi cyngor cyfrinachol ar yr holl faterion sy’n ymwneud â gwaith, ac a all eich cynrychioli os oes gennych broblemau yn y gwaith.