Iechyd a Llesiant

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Ein hamcan yw mynd ati’n barhaus i ddatblygu diwylliant gwaith sy'n diogelu, yn hyrwyddo ac yn cefnogi iechyd a lles ein holl bobl. Dyna pam rydym yn cynnig absenoldeb salwch â thâl am gyfnodau o salwch meddyliol a chorfforol, ynghyd â darparu mynediad at y Rhaglen Cymorth i Weithwyr a Chynghorydd Iechyd Galwedigaethol sy'n eich galluogi i gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau i'ch helpu i ofalu am eich iechyd a'ch llesiant.

Ochr yn ochr â'r strwythurau cymorth mwy ffurfiol hyn, mae gennym hefyd lawer o weithgareddau anffurfiol i gefnogi'ch iechyd a'ch lles, fel sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar neu ioga rheolaidd, aelodaeth â champfa am bris gostyngedig neu grŵp cerdded neu redeg amser cinio gyda’ch tîm.