Rhaglenni i brentisiaid a graddedigion

Cyhoeddwyd 01/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/01/2021   |   Amser darllen munudau

Yma yn y Senedd, rydym o’r farn fod dysgu yn siwrne sy’n para am oes.

 

Rydym wedi gweithio’n galed i ymgorffori’r ethos hwn yn y cyfleoedd rydym yn hynod falch o allu eu rhannu â chi!

 

Gall ein cynlluniau i brentisiaid a graddedigion fod yn fan cychwyn ardderchog, neu’n newid gyrfa i’w groesawu.


Beth bynnag eich cefndir a’ch diddordebau, mae yna brentisiaeth yn y Senedd sy’n addas i chi.