Mae'r Cod hwn yn disgrifio'r safonau ymddygiad sy'n ofynnol gan holl gyflogeion Comisiwn y Senedd ("y Comisiwn").
Fel cyflogeion mewn sefydliad a etholir yn ddemocrataidd, disgwylir i gyflogeion ymddwyn mewn modd na fydd yn dwyn anfri ar Gomisiwn y Senedd, nac yn achosi embaras iddo.
Rhaid i gyflogeion y Comisiwn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mewn ffordd onest a diduedd bob amser.
Drwy gydymffurfio â'r Cod hwn, bydd cyflogeion yn sicrhau eu bod yn cadw at y safonau a ddisgwylir gan bawb sy'n cefnogi Senedd Cymru o ran uniondeb cymeriad, ymddygiad a sicrhau lles y cyhoedd wrth gyflawni ein gwaith.