Cod Ymddygiad Staff

Cyhoeddwyd 24/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/03/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r Cod hwn yn disgrifio'r safonau ymddygiad sy'n ofynnol gan holl gyflogeion Comisiwn y Senedd ("y Comisiwn").


Fel cyflogeion mewn sefydliad a etholir yn ddemocrataidd, disgwylir i gyflogeion ymddwyn mewn modd na fydd yn dwyn anfri ar Gomisiwn y Senedd, nac yn achosi embaras iddo.

Rhaid i gyflogeion y Comisiwn sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mewn ffordd onest a diduedd bob amser.


Drwy gydymffurfio â'r Cod hwn, bydd cyflogeion yn sicrhau eu bod yn cadw at y safonau a ddisgwylir gan bawb sy'n cefnogi Senedd Cymru o ran uniondeb cymeriad, ymddygiad a sicrhau lles y cyhoedd wrth gyflawni ein gwaith.