Polisi Cwcis

Cyhoeddwyd 14/01/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/02/2021   |   Amser darllen munudau

Beth yw cwcis?

Ffeiliau testun bach yw ’Cwcis' a osodir ar eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â hwy. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn sicrhau bod gwefannau’n gweithio, neu’n gweithio’n fwy effeithlon, ac i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y safle. Drwy ddeall sut y bydd pobl yn defnyddio gwefannau’r Senedd, gallwn wneud gwelliannau i’r dulliau llywio a’r cynnwys, er mwyn gwneud y safle’n well ac yn haws ei ddefnyddio. Nodir isod restr gyflawn o’r cwcis a ddefnyddir ar ein gwefannau.

Rheoli cwcis

Mae’r mwyafrif o borwyr y we yn rhoi rhywfaint o reolaeth dros y mwyafrif o gwcis drwy’r gosodiadau pori. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis a osodwyd, a sut y dylid eu rheoli a’u dileu, ewch i  www.allaboutcookies.org (saesneg yn unig).

Cwcis a ddefnyddiwyd gan Senedd Cymru

Mae'r tabl isod yn esbonio beth yr rydym yn eu defnyddio ar y gwefannau canlynol:

Cwcis parti cyntaf

Wrth ddefnyddio ein gwefannau, fe welwch ein bod yn defnyddio cwcis i sicrhau bod y safle'n gweithredu fel y dylai. Dyma restr o gwcis sy'n benodol i safle y mae'n rhaid wrthynt i'r safle allu gweithio. 

​Safle

​Cwci

Dod i ben

Diben

​www.senedd.cymru

​ARRAffinity

Diwedd sesiwn y porwr

Ensures user request are sent to the same server for the duration of the session.

​ARRAffinitySameSite

​Diwedd sesiwn y porwr

Ensures user request are sent to the same server for the duration of the session.

​CookieControl

​90 diwrnod

Manages visitor cookie preferences.

busnes.senedd.cymru

lwfansau.senedd.cymru

swyddi.senedd.cymru

​ASP.NET_SessionId

Diwedd sesiwn y porwr

Fe'i defnyddir gan safle i nodi sesiwn defnyddiwr. Caiff y cwci hwn ei greu gan y system rheoli cynnwys, ac mae'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio'n iawn.

​www.senedd.tv

​JSESSIONID

Diwedd sesiwn y porwr

Fe'i defnyddir gan safle i nodi sesiwn defnyddiwr. Caiff y cwci hwn ei greu gan y system rheoli cynnwys, ac mae'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio'n iawn.

​www.pierhead.org

​PHPSESSID

Diwedd sesiwn y porwr

Fe'i defnyddir gan safle i nodi sesiwn defnyddiwr. Caiff y cwci hwn ei greu gan y system rheoli cynnwys, ac mae'n hanfodol er mwyn i'r safle weithio'n iawn.

 

Google Analytics

Defnyddir y cwcis hyn i'n helpu i ddeall sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein gwefannau. Defnyddir data a gesglir i greu adroddiadau rheolaidd ar y defnydd a wneir o'r gwefannau ac mae'n ein helpu i wella ein holl wefannau ar gyfer y defnyddwyr. Mae'r data yn dangos i ni faint sy'n defnyddio ein gwefannau a sut y gwnaethant eu cyrraedd. O'r hyn a ddarperir gan wasanaeth Google, ni allwn storio na chyrchu dim gwybodaeth bersonol y gellid ei defnyddio i adnabod rhywun; h.y. cesglir y wybodaeth ar ffurf ddienw.

Os ydych am i Google Analytics eich olrhain ar bob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.

Am ragor o wybodaeth am y cwcis dadansoddol, ewch i dudalennau gwybodaeth Google.

Safle

 ​Cwci

Dod i ben

Diben*

senedd.cymru (gan gynnwys is-barthau)

senedd.tv

pierhead.org

​_utma

​24 mis

Feli defnyddir i adnabod defnyddwyr a sesiynau. Caiff y cwci ei ddiweddaru bob tro yr anfonir data at Google Analytics.

​_utmb

​30 mis

Fe'i defnyddir i ddynodi sesiynau/ymweliadau newydd. Caiff y cwci ei ddiweddaru bob tro yr anfonir data at Google Analytics.

​_utmc

Diwedd sesiwn y porwr

Defnyddir y cwci hwn ar y cyd â chwci _utmb i ddynodi ai sesiwn/ymweliad newydd ydyw.

​_utmt

​10 munud

Fe'i defnyddir fel throtl ar ffrwd y ceisiadau.

​_utmz

​6 mis

Fe'i defnyddir i storio data newidynnau personol ar lefel ymwelwyr. Caiff y cwci ei ddiweddaru bob tro yr anfonir data at Google Analytics.

 

_ga

24 mis

Fe'i defnyddir i storio data newidynnau personol ar lefel ymwelwyr.

 

_gid

 

24 awr

Fe'i defnyddir i storio data newidynnau personol ar lefel ymwelwyr.

 

_gat

1 munud

Fe'i defnyddir fel throtl ar ffrwd y ceisiadau.

*diben yn ôl https://developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage#gajs ar 22/05/2018, https://developers.google.com/analytics/devguides/collection/analyticsjs/cookie-usage ar 14/01/2021.

Cwcis trydydd parti

 

Twitter

Defnyddir ffrydiau a chardiau Twitter ar sawl un o'n gwefannau. Er nad yw'n amlwg bod cwcis Twitter yn cael eu gosod wrth i'n gwefannau gael eu defnyddio, efallai y byddwch yn sylwi bod y cwcis hyn yn weithgar wrth ichi bori gwefannau'r Senedd. Dim ond lle yr ydych eisoes wedi defnyddio Twitter neu wasanaeth Twitter y bydd y cwcis hyn yn cael eu gosod ar eich dyfais.

Lluniwyd ffrydiau Twitter wedi'u mewnblannu mewn modd sy'n sicrhau nad yw data ymwelwyr sy'n deillio o https://www.senedd.cymru yn cael eu defnyddio i bersonoli na theilwra cynnwys ar wasanaethau Twitter.

Am ragor o wybodaeth, ewch i drosolwg preifatrwydd datblygwyr a pholisi cwcis Twitter.

YouTube

Rydym yn mewnblannu fideos o'n sianel YouTube swyddogol, yn ogystal â dewis sianeli eraill, ar draws y wefan. Rydym yn gweithio i sicrhau bod pob fideo a fewnblannwyd yn defnyddio modd preifatrwydd uwch YouTube (gydag URLau yn dechrau gyda http://youtube-nocookie.com/). Mae hyn yn golygu y gellir gosod cwcis ar eich dyfais ar ôl i chi chwarae fideo wedi'i mewnblannu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau cymorth Google ar y pwnc hwn.

 

Lincs i wefannau eraill

Byddwn yn creu lincs i gwefannau eraill yn aml. Cyfeiriwch at bolisi cwcis / preifatrwydd y safleoedd hyn i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a ni

Diweddarwyd dwethaf: 05/05/20