Pa fath o rolau y mae Aelodau'n recriwtio ar eu cyfer?
- Gweithiwr Achos / Uwch Weithiwr Achos
- Rheolwr Swyddfa
- Ymchwilydd / Uwch Ymchwilydd
- Swyddog Cyfathrebu neu'r Cyfryngau
- Uwch Gynghorwyr
- Gweinyddwyr
"Gall gweithio i Aelod fod yn werth chweil, gan eich bod yn teimlo y gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gynorthwyo newid polisi ac ymdrin â materion sy’n peri pryder i etholwyr. Nid oes dau ddiwrnod yr un peth, mae angen ystod amrywiol o sgiliau ar gyfer ein swyddi ac mae cyfleoedd i dderbyn hyfforddiant priodol. Rwyf wedi mwynhau gweithio i Aelod yn fawr a byddwn yn ei argymell i unrhyw un. ”