Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gwaith Achos a Chyswllt Cymunedol ar gyfer Vikki Howells AS

Cyhoeddwyd 12/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/06/2026

Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gwaith Achos a Chyswllt Cymunedol ar gyfer Vikki Howells AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Wedi’i leoli yn Swyddfa’r Etholaeth, Aberdâr gyda theithio achlysurol i’r Senedd, Caerdydd.
Cyfeirnod: MBS-060-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Gwaith Achos Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymdrin ag achosion mwy cymhleth, yn eiriol dros etholwyr, ac yn ymchwilio i bolisi wrth ddarparu cefnogaeth i etholwyr a'r Aelod. Bydd yn gweithio'n annibynnol ar waith achosion, yn cysylltu ag asiantaethau’r llywodraeth a chyrff perthnasol eraill yn ôl yr angen.

Prif ddyletswyddau:

  • Ymdrin ag achosion cymhleth a sensitif, gan ddarparu cymorth ac atebion teilwredig i etholwyr. Gall hyn gynnwys cefnogi etholwyr i ymgyrchu yn erbyn y materion a nodwyd ganddynt drwy rannu gwybodaeth a rhoi cyngor mewn perthynas â'r broses ddeddfwriaethol, hawliau ac ati.
  • Cyfathrebu ag adrannau’r llywodraeth, cynghorau lleol ac asiantaethau i gefnogi etholwyr i ddatrys problemau.
  • Mynd i gymorthfeydd yr Aelod, ymgysylltu’n uniongyrchol ag etholwyr, cymryd nodiadau manwl, a nodi camau dilynol.
  • Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r band hwn, yn ôl yr angen, i gefnogi'r Aelod

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rhedeg swyddfa brysur.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Vikki.Howells-MS@Senedd.Wales

 

 


Dyddiad cau: 26 June 2026, 5yh
Dyddiad cyfweliad: TBC