Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gweithredol ar gyfer Paul Marr AS

Cyhoeddwyd 17/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2026

Cyfle Gwaith: Cydlynydd Gweithredol ar gyfer Paul Marr AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Swyddfa'r Senedd
Cyfeirnod: MBS-065-26

Diben y swydd: 

Mae Swyddog Rheoli a Gweinyddu Busnes Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod, a gwaith yr Aelod o ddydd i ddydd, yn esmwyth.  Gall gwaith o'r fath gynnwys cyllid, rheoli dyddiaduron, cadw cofnodion neu waith sy'n gysylltiedig â phobl.

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.
  • Goruchwylio gwaith staff iau ac interniaid.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad a gwariant) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio mewn timau, gyda'r gallu i gydlynu staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn effeithiol.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu NVQ (neu gyfwerth) mewn pwnc perthnasol e.e Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus, neu brofiad perthnasol sylweddol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Paul.Marr-MS@Senedd.Wales

Dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2026, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau