Cyfle Gwaith: Cydlynydd Swyddfa ar gyfer Cefin Campbell AS

Cyhoeddwyd 30/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2026

Cyfle Gwaith: Cydlynydd Swyddfa ar gyfer Cefin Campbell AS

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth, Llanelli
Cyfeirnod: MBS-102-26

 

Diben y swydd: 

Mae Swyddog Rheoli a Gweinyddu Busnes Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod, a gwaith yr Aelod o ddydd i ddydd, yn esmwyth.  Gall gwaith o'r fath gynnwys cyllid, rheoli dyddiaduron, cadw cofnodion neu waith sy'n gysylltiedig â phobl.

 

Prif ddyletswyddau:

  • Cynnal gweithrediadau dyddiol swyddfa'r Aelod.
  • Goruchwylio gwaith staff iau ac interniaid.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad a gwariant) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio mewn timau, gyda'r gallu i gydlynu staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn effeithiol.
  •  Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.

 

Cymhwysterau hanfodol:

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiadd arall addas.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Cefin.Campbell-AS@Senedd.Cymru

Dyddiad cau: 07 Gorffennaf 2026 am 5yh
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.