Cyfle Gwaith: Cynghorydd Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar gyfer Leticia Gonzalez
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Dros dro am 12 wythnos
Lleoliad: Senedd a’r swyddfa etholaethol
Cyfeirnod: MBS-116-26
Prif ddyletswyddau:
- Gweithredu fel y prif gyswllt cyfryngau, gan ymgysylltu â newyddiadurwyr a darlledwyr.
- Ysgrifennu datganiadau i'r wasg a briffiau i'r cyfryngau.
- Rheoli ymddangosiadau yn y cyfryngau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, gan gynnwys drafftio negeseuon allweddol.
- Rheoli'r naws ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Creu cynnwys amlgyfrwng o ansawdd uchel (graffeg, fideos, ffeithluniau).
- Gweithio gyda'r tîm cyfathrebu ehangach a'r swyddog cyfryngau cymdeithasol i sicrhau cyfathrebu cydlynol.
-
Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
- Goruchwylio’r gwaith o lunio cylchlythyrau a thaflenni
- Trefnu a hyrwyddo cyfarfodydd cyhoeddus, digwyddiadau ac ymweliadau yn yr etholaeth.
- Cynghori’r Aelod ynghylch negeseuon cyhoeddus a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol.
- Goruchwylio i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyfathrebu yn cydymffurfio â rheolau'r Senedd.
-
Gweithredu o fewn y gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn, gan gynnwys fframweithiau'r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) a fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol).
-
Cyflawni dyletswyddau eraill sy'n gymesur â'r band hwn, yn ôl yr angen, i gefnogi'r Aelod.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
• Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
• Yn meddu ar brofiad o dirwedd y cyfryngau ac yn defnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
• Yn gallu dylanwadu ar agenda'r cyfryngau drwy gynllunio ymlaen llaw yn rhagweithiol ac yn datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio cynllun cyfathrebu, yn ofyniad allweddol.
· Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
· Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
Cymhwysterau hanfodol:
· Yn dangos profiad o amrywiaeth o weithdrefnau gwaith sy’n deillio o brofiad gwaith perthnasol;
a/neu gymhwyster galwedigaethol, er enghraifft, NVQ neu gymhwyster cyfatebol ym maes y cyfryngau neu gyfathrebu.