Carolyn Thomas AS

Carolyn Thomas AS

Cyfle Gwaith: Cynorthwy-ydd Gweinyddol i Carolyn Thomas AS

Cyhoeddwyd 01/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2024   |   Amser darllen munudau

Cynorthwy-ydd Gweinyddol i Carolyn Thomas MS

Ystod cyflog: (pro rata) £24,243 - £31,798

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 14 awr (hyblyg)
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Gweithio o Gartref

Cyfeirnod:MBS-038-24

Diben y swydd

I ddarparu gwasanaeth cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Prif ddyletswyddau

1. Cynnal system ffeilio, cysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau ar gais

2. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol

3. Paratoi ymatebion draft i ohebiaeth areferol a gwaith achos

4. Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd

Manyleb y Person

⦁ Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, ee systemau llaw a chyfrifiadurol
⦁ Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad i hynny.
⦁ Gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt.

Cymwysterau hanfodol

⦁ Cymhwyster NVQ lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol mewn Gweinyddu Swyddfa, Gwasanaeth Cwsmeriaid neu bwnc perthnasol neu;
⦁ Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) gradd C neu’n uwch.

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Dan.Rose@senedd.cymru

Dyddiad cau: 17:00, 6 Rhagfyr 2024.

Dyddiad cyfweliad: TBC