Cyfle Gwaith: Cynorthwydd Cyfathrebu ar gyfer Elyn Stephens

Cyhoeddwyd 22/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/07/2026

Cyfle Gwaith: Cynorthwydd Cyfathrebu ar gyfer Elyn Stephens

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth a'r Senedd
Cyfeirnod: MBS-117-26

 

Prif ddyletswyddau:

  • Creu strategaeth cyfryngau hir dymor ar gyfer y Aelod.
  • Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.
  • Cynorthwyo’r broses o ymateb i ymholiadau gan y cyfryngau a threfnu cyfweliadau.
  • Meithrin perthnasoedd â newyddiadurwyr a chyrff y cyfryngau.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Disgwylir iddynt ddatblygu hyfedredd mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
  • Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
  • Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
  • Profiad o roi mesurau diogelu cymesur ar waith mewn perthynas â phlant ac oedolion sy’n agored i niwed.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Elyn.Stephens-AS@senedd.cymru.

I wneud cais, anfonwch eich cais at Elyn-Stephens-AS@senedd.cymru erbyn y dyddiad cau. 

Dyddiad cau: 16 Awst 2026, 17:00 


Dyddiad cyfweliad: TBC