Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Cyswllt Cymunedol ar gyfer Sam Rowlands AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 18.5 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 12 mis
Lleoliad: Swyddfa’r etholaeth - Fflint Wrecsam
Cyfeirnod: MBS-066-26
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Gwaith Achos Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo etholwyr gyda materion y maent yn eu hwynebu ac am sicrhau eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol gan asiantaethau'r Llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
- Cynorthwyo gyda’r gwaith o gynhyrchu, cydlynu a chyflawni ymgyrchoedd digidol a phrint i gysylltu ag etholwyr
- Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.