Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Polisi ac Ymchwil ar gyfer Mark Hooper AS a Sarah Rees AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 14.6 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth (Barry), y Senedd ac o gartref
Cyfeirnod: MBS-144-26
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil cefndirol ar faterion polisi, deddfwriaeth a phryderon etholaethol.
- Cynorthwyo’r gwaith o ddrafftio cwestiynau yn y Senedd a llythyrau at Weinidogion.
- Cefnogi ymchwil ar faterion lleol a pholisïau'r Llywodraeth.
- Monitro’r newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau perthnasol neu bryderon y cyhoedd.
- Cynnal cronfa ddata ymchwil drefnus y gellid cyfeirio ati.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o brosesau llywodraethol a seneddol.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol, gan ddilyn materion cyfoes a pholisïau’r blaid.
- Sylw i fanylion, gan sicrhau cywirdeb mewn dogfennau ymchwil a pholisi.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.