Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Seneddol ar gyfer Joe Martin AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Y Senedd, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-068-26
Diben y swydd:
Mae Cynorthwyydd Seneddol Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod), yn cefnogi'r Aelod drwy:
- wneud gwaith ymchwil, drafftio papurau briffio ar bolisi a chynorthwyo gyda gwaith yr Aelod yn y Sened;
- darparu cefnogaeth weinyddol ac etholaethol, a chefnogaeth o ran cyhoeddusrwydd, i'r Aelod, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal; a
- chynorthwyo gydag ymgyrchoedd cyfathrebu'r Aelod, yn fewnol ac yn allanol, gan gynorthwyo’r Aelod i ledaenu negeseuon a gwybodaeth allweddol.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
- Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
- Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o brosesau llywodraethol a seneddol.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol, gan ddilyn materion cyfoes a pholisïau’r blaid.
- Sylw i fanylion, gan sicrhau cywirdeb mewn dogfennau ymchwil a pholisi.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd mewn pwnc perthnasol.