Cynorthwyydd Seneddol i Darren Millar AS
Ystod cyflog: £30,520 - £42,811 pro-rata
Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.
Oriau gwaith: 37.
Lleoliad: Ty Hywel, Caerdydd.
Parhaol.
Reference: MBS-013-24
Diben y swydd
Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau ysgrifenyddol ac ymchwil o ansawdd uchel i’r Aelod.
Prif ddyletswyddau
- Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol o ansawdd uchel
- Darparu cyngor ymchwil, dadansoddiadau a deunydd briffio sy'n berthnasol i waith yr Aelod yn yr etholaeth
- Datblygu a chynnal gwybodaeth am bynciau y cytunir arnynt fel eich bod yn gallu rhagweld a bodloni anghenion gwybodaeth yr Aelod
- Datblygu perthynas effeithiol â chydweithwyr o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws Senedd Cymru, a chydweithio gyda nhw
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
- Profiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau ysgrifenyddol ac ymchwil mewn amgylchedd seneddol neu debyg
- Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd o bwysau
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
Cymwysterau Hanfodol
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
- Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
- Profiad perthnasol sy’n cyfatebol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.
Am unrhyw ymholiadau ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais (mae CV yn ddewisol) at Darren.Millar@senedd.wales
Dyddiad cau: 15:00, 16 Gorffennaf 2024.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarhau