Darren Millar

Darren Millar

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Seneddol i Darren Millar AS

Cyhoeddwyd 09/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/07/2024   |   Amser darllen munudau

Cynorthwyydd Seneddol i Darren Millar AS

Ystod cyflog: £30,520 - £42,811 pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 37.

Lleoliad: Ty Hywel, Caerdydd. 

Parhaol. 

Reference:  MBS-013-24

Diben y swydd

Arwain y gwaith o ddarparu gwasanaethau ysgrifenyddol ac ymchwil o ansawdd uchel i’r Aelod.

Prif ddyletswyddau

  • Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol o ansawdd uchel
  • Darparu cyngor ymchwil, dadansoddiadau a deunydd briffio sy'n berthnasol i waith yr Aelod yn yr etholaeth
  • Datblygu a chynnal gwybodaeth am bynciau y cytunir arnynt fel eich bod yn gallu rhagweld a bodloni anghenion gwybodaeth yr Aelod
  • Datblygu perthynas effeithiol â chydweithwyr o wahanol feysydd gwasanaeth ar draws Senedd Cymru, a chydweithio gyda nhw

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Profiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau ysgrifenyddol ac ymchwil mewn amgylchedd seneddol neu debyg
  • Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd o bwysau
  • Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn

Cymwysterau Hanfodol

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • Cymhwyster NVQ lefel 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
  • Profiad perthnasol sy’n cyfatebol

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

Am unrhyw ymholiadau ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais (mae CV yn ddewisol) at Darren.Millar@senedd.wales 

Dyddiad cau: 15:00, 16 Gorffennaf 2024. 

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarhau