Altaf Hussain

Altaf Hussain

Cyfle Gwaith: Cynorthwyydd Seneddol i Dr Altaf Hussain AS

Cyhoeddwyd 09/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/08/2024   |   Amser darllen munudau

Cynorthwyydd Seneddol i Dr Altaf Hussain AS

Ystod cyflog: £23,742 - £31,798 pro-rata

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 37.

Lleoliad: Swyddfeydd Rhanbarthol (Porthcawl/Gorseinon)

Parhaol. 

Reference:  MBS-018-24

Diben y swydd

Darparu gwasanaeth ysgrifenyddol/cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal

Prif ddyletswyddau

  1. Cynnal system ffeilio, gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth bresennol, a dod o hyd i ddogfennau pan wneir cais amdanynt
  2. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo’n briodol
  3. Didoli’r post sy’n dod i mewn yn ôl blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol
  4. Ymchwilio i faterion a godir mewn gohebiaeth etholaethol a gwneud gwaith dilynol ar achosion o’r fath, gan sicrhau y cânt eu datrys mewn modd amserol

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, e.e. rhai â llaw a rhai cyfrifiadurol
  • Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt

Cymwysterau Hanfodol

  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

Am unrhyw ymholiadau ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais (mae CV yn ddewisol) at Mark.Major@senedd.wales 

Dyddiad cau: 17:00, 12 Medi 2024. 

Dyddiad cyfweliad: I'w gadarhau