Arian

Arian

Recriwtio Aelodau Anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

Cyhoeddwyd 22/01/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/01/2024   |   Amser darllen munudau

Archwilydd Cyffredinol Cymru yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

Mae Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) yn gorff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol naw aelod sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill i Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro a chynghori'r Archwilydd Cyffredinol wrth iddo arfer ei swyddogaethau.

Gyda’i gilydd, mae’r Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithredu o dan hunaniaeth ambarel Archwilio Cymru.

Mae’r Senedd am benodi i’r swyddi gwag a ganlyn ar gyfer Aelodau Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru i ddechrau ar 1 Mehefin 2024 a 17 Hydref 2024:

  • Dau Aelod Anweithredol: (£12,500 y flwyddyn, amhensiynadwy, 2-3 diwrnod y mis)

Dyddiad cau: Dydd Gwener 1 Mawrth 2024

Darganfyddwch mwy