Cyfle Gwaith: Gweinyddwr Cyfathrebu ar gyfer Lindsay Whittle AS

Cyhoeddwyd 17/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/06/2026

Cyfle Gwaith: Gweinyddwr Cyfathrebu ar gyfer Lindsay Whittle AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 10 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth a'r Senedd, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-082-26

Diben y swydd: 

Byddai Swyddog Cyfathrebu Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo ymdrechion cyfathrebu’r Aelod, yn fewnol ac yn allanol, gan gynorthwyo’r Aelod i ledaenu negeseuon a gwybodaeth allweddol.

Prif ddyletswyddau:

  • Monitro'r cyfryngau lleol a chenedlaethol am newyddion perthnasol.
  • Rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yr Aelod (Twitter/X, Facebook, Instagram, LinkedIn) yn ôl cyfarwyddyd yr Aelod neu aelod uwch o staff.
  • Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru’r wefan, ac erthyglau blog.
  • Gweithredu o fewn y gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau'n gweithredu o’u mewn, gan gynnwys fframweithiau'r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) a fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol).

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Disgwylir iddynt ddatblygu hyfedredd mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
  • Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad arall addas.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Lindsay.Whittle-AS@Senedd.Cymru

Dyddiad cau: 24 Mehefin 2026, 5pm
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau