Hannah Blythyn

Hannah Blythyn

Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos a Chynorthwy-ydd Etholaethol i Hannah Blythyn AS

Cyhoeddwyd 17/03/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2025

Gweithiwr Achos a Chynorthwy-ydd Etholaethol i Hannah Blythyn AS

Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37
Natur y penodiad: Parhaol*
Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth (gyda’r gallu i weithio gartref yn ôl cytundeb)
Cyfeirnod: MBS-061-24

Diben y swydd:

Rhoi cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol o safon uchel i’r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal. 

Prif ddyletswyddau: 

  1. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel y bo'n briodol yn ogystal â chysylltu â'r Uwch Gynghorwr i sicrhau bod y swyddfa etholaeth yn gweithredu’n effeithiol o ddydd i ddydd.
  2. Datblygu a chynnal system gwaith achos, gan sicrhau bod pob achos yn cael ei gofnodi; monitro cynnydd a sicrhau bod yr holl gamau gweithredu a nodwyd yn cael eu cymryd.
  3. Cynnal system ffeilio electronig, gan gysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth bresennol, a dod o hyd i ddogfennau pan wneir cais amdanynt.
  4. Mynd i gyfarfodydd a/neu ddigwyddiadau gyda’r Aelod o’r Senedd a chynrychioli’r Aelod o’r Senedd yn y gymuned.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
  • Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
  • Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac Egwyddorion Nolan mewn Bywyd Cyhoeddus, ac ymrwymiad i'r materion hyn.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu brofiad cyfatebol mewn sector perthnasol; neu
    Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Sandra.Richards@Senedd.cymru 

* Os bydd yr Aelod o’r Senedd yn ymddiswyddo, neu’n colli ei sedd mewn etholiad, bydd y swydd hon yn dod i ben.  O ran swyddi o fewn grŵp y blaid, os bydd Arweinydd y blaid yn newid, neu os bydd nifer Aelodau'r Grŵp yn newid, mae’n bosibl y daw’r swydd hon i ben.  


Dyddiad cau: 17:00, 24 Mawrth 2025
Dyddiad cyfweliad: 28 Mawrth 2025