Cyfle Gwaith: Gweithiwr Achos Seneddol ar gyfer Janet Finch-Saunders AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 24 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Cyfnod penodol am 6 mis
Lleoliad: Swyddfa etholaethol - Llandudno
Cyfeirnod: MBS-067-26
Diben y swydd:
Byddai Swyddog Gwaith Achos Band 3 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd fel arfer yn gyfrifol am gynorthwyo etholwyr gyda materion y maent yn eu hwynebu ac am sicrhau eu bod yn cael y cymorth angenrheidiol gan asiantaethau'r llywodraeth, cynghorau lleol a sefydliadau eraill.
Prif ddyletswyddau:
- Ymateb i ymholiadau etholwyr dros y ffôn, drwy e-bost neu mewn llythyrau.
- Darparu cyngor sylfaenol a gwasanaeth cyfeirio i etholwyr ar faterion fel tai, mewnfudo, lles, budd-daliadau ac iechyd.
- Cynnal cofnodion cywir a chyfrinachol o achosion etholwyr yn unol â chyfreithiau diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg mewn maes gwaith gweinyddol neu ymarferol; gallu ateb ystod safonol o ymholiadau gan eraill a gwybod pryd i atgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth.
- Disgwylir iddynt fod yn hyddysg gyda'r adnoddau a'r offer arferol ar gyfer y swydd e.e. pecynnau meddalwedd safonol, a bod yn gyfarwydd â’r cyfryngau ar-lein.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig da.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.