Intern ar gyfer Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig
Ystod cyflog (pro rata): £25,167 - £33,706
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 7.4
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 12 mis
Lleoliad: 1x Rol Ty Hywel, Bae Caerdydd, 1x Rol Abergele, Gogledd Cymru
Cyfeirnod: MBS-020-25, MBS-021-25
Diben y swydd:
Helpu i ddarparu cymorth ymchwil, cyngor a chymorth gweinyddol o ansawdd da i'r Aelod o’r Senedd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil i faterion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol yn ôl y gofyn a sicrhau bod yr Aelod o’r Senedd yn ymwybodol o unrhyw faterion perthnasol
- Ymchwilio i feysydd polisi perthnasol yn unol â chyfarwyddyd yr Aelod o’r Senedd
- Drafftio papurau briffio a gwybodaeth i gynorthwyo’r Aelod o’r Senedd wrth ymdrin â gwaith achos etholaethol neu er mwyn helpu i lywio trafodaethau.
- Darparu gwaith ymchwil o safon uchel mewn ymateb i ymholiadau
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad mewn amgylchedd ymchwil neu wybodaeth.
- Profiad o weithio'n uniongyrchol â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
- Dealltwriaeth o'r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a’r gallu i weithredu mewn amgylchedd sensitif, ac ymrwymiad i'r materion hyn
- Dealltwriaeth o’r angen i frwydro yn erbyn gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad i’r materion hyn
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
- Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Davies@senedd.cymru
- Manyleb y person a'r swydd - Ty Hywel, Bae Caerdydd
- Manyleb y person a'r swydd - Abergele, Gogledd Cymru
- Ffurflen gais
- Gwybodaeth Bwysig
- Buddion gweithio i Aelod