Cyfle Gwaith: Is-ymchwilydd ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis gyda'r potensial i'w ymestyn yn dilyn perfformiad boddhaol.
Lleoliad: Y Senedd
Cyfeirnod: MBS-057-26
Diben y swydd:
Mae Is-ymchwilydd, Band 3 sy’n gweithio i'r Grŵp Reform yn cefnogi Aelodau drwy gynnal ymchwil, drafftio ymatebion safonol a briffiau polisi i helpu gyda gwaith y Senedd.
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil cefndirol ar faterion polisi, deddfwriaeth a phryderon etholaethol.
- Cynorthwyo’r gwaith o ddrafftio cwestiynau yn y Senedd a llythyrau at Weinidogion.
- Drafftio ymatebion i ymholiadau sy'n ymwneud â pholisïau gan etholwyr neu sefydliadau lleol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o brosesau llywodraethol a seneddol.
- Ymwybyddiaeth wleidyddol, gan ddilyn materion cyfoes a pholisïau’r blaid.
- Sylw i fanylion, gan sicrhau cywirdeb mewn dogfennau ymchwil a pholisi.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.