Cyfle Gwaith: Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Rebeca Phillips AS

Cyhoeddwyd 01/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/07/2026

Cyfle Gwaith: Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Rebeca Phillips AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Ystradgynlais a Bae Caerdydd 
Cyfeirnod: MBS-100-26

Diben y swydd: 

Mae Swyddog Cyfathrebu Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (AS) yn ymgymryd â gwaith ymchwil, gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg a'r cyfryngau, yn goruchwylio'r strategaeth gyfathrebu ac yn rheoli ymgysylltiadau proffil uwch.   Byddant yn meddu ar arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso i ystod eang o sefyllfaoedd sy’n berthnasol i gyfathrebu.

Prif ddyletswyddau:

  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.
  • Gosod y naws a'r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraeth, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Yn meddu ar brofiad sylweddol o dirwedd y cyfryngau gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
  • Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.  

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Rebeca.Phillips-AS@Senedd.Cymru

Dyddiad cau: 22 Gorffennaf 2026, 5yp
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau