Cyfle Gwaith: Pennaeth Cyfathrebu ar gyfer Swyddfa Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN
Cyfeirnod: MBS-091-26
Bydd y rôl yn dechrau yn mis Medi 2026.
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.
- Gweithredu fel prif gyswllt y cyfryngau, gan ymgysylltu’n rhagweithiol â newyddiadurwyr a darlledwyr.
- Ysgrifennu datganiadau i'r wasg, erthyglau barn a briffiau i'r cyfryngau sy'n cael effaith fawr.
- Gosod y naws a'r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Goruchwylio’r broses o lunio a chreu cynnwys amlgyfrwng o ansawdd uchel (gan gynnwys graffeg, fideos, recordiadau sain a ffeithluniau).
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraeth, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
- Goruchwylio’r gwaith o lunio cylchlythyrau, blogiau a chynnwys gwefannau.
- Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau a briffiau polisi ar gyfer Aelodau o Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig.
- Rhoi cyngor ar sut i lunio cyhoeddiadau polisi i gael yr effaith fwyaf.
- Gweithio gyda Phennaeth Staff Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig i reoli staff, dirprwyo tasgau, a sicrhau gwasanaeth o safon uchel.
- Goruchwylio i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyfathrebu yn cydymffurfio â rheolau'r Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Yn meddu ar brofiad sylweddol o dirwedd y cyfryngau gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
- Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
- Dylanwadu ar yr agenda gyfryngau drwy waith cynllunio rhagweithiol. Datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio a chyflawni strategaeth a chynlluniau cyfathrebu.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
- Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. Am ragor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â Darren.Millar-MS@senedd.wales
I wneud cais, anfonwch eich cais at Darren.Millar-MS@senedd.wales erbyn y dyddiad cau.
Dyddiad cau: 4 Awst 2026 12:00
Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau