Cyfle Gwaith: Pennaeth Staff ar gyfer Grŵp Reform UK
Ystod cyflog (pro rata): £51,191 - £65,816
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-098-26
Diben y swydd:
Rheoli a chydlynu gwaith staff Grŵp y Senedd yn Senedd Cymru, gan gynnwys ei waith ymchwil a gweinyddol, a'i gynnyrch ar gyfer y cyfryngau. Un o'r prif dasgau fydd arwain a chymell y tîm o staff i gyflawni amcanion strategol y grŵp.
Prif ddyletswyddau:
- Ar y cyd â’r Arweinydd a’r Aelodau Uwch eraill o’r Blaid (fel y diffinnir gan yr Arweinydd), diffinio ac arolygu amcanion strategol y grŵp a gyrru perfformiad i gyflawni’r canlyniadau dymunol.
- Gwasanaethu fel prif gynghorydd i Arweinydd y Blaid ar faterion gwleidyddol a gweithdrefnau’r Senedd.
- Rheoli staff y grŵp, gan fod yn atebol i Arweinydd y Blaid, gan gynnwys recriwtio a goruchwylio staff, rheoli perfformiad, monitro dangosyddion perfformiad allweddol, a materion eraill sy'n ymwneud â phersonél, yn ôl y galw.
- Rheoli a monitro cyllideb Staff y Grŵp yn briodol er mwyn sicrhau bod y Grŵp yn cael y gefnogaeth staffio angenrheidiol ac y cynhelir rhagolygon digonol i ymdrin ag anghenion y Grŵp.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb.
- Cyfrifoldeb am reoli tîm aml-ddisgybledig o staff sydd â hanes profedig o sicrhau canlyniadau.
- Dealltwriaeth lawn o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae Aelodau a Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau'r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant, ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Yn gallu darparu cyngor gwybodus i Aelodau a chydweithwyr.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall