Cyfle Gwaith: Pennaeth Swyddfa a Chyfathrebu ar gyfer Alun Cox AS

Cyhoeddwyd 01/07/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/07/2026

Cyfle Gwaith: Pennaeth Swyddfa a Chyfathrebu ar gyfer Alun Cox AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r Etholaeth – Afan Ogwr Rhondda
Cyfeirnod: MBS-101-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Rheoli Busnes a Gweinyddiaeth Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd (Aelod) yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith rheoli a gweinyddu sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall fod â goruchwyliaeth dros reoli cofnodion, gan sicrhau llwybrau archwilio clir mewn perthynas â phob gohebiaeth a bod data yn cael eu prosesu a'u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau ac atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith a blaenoriaethu dyraniad ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol er enghraifft, cymorthfeydd yr Aelod, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu.

Prif ddyletswyddau:

  • Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol.  Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan fod yn rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
  • Yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion sy'n safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
  • Sicrhau llywodraethiant da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth gyda synnwyr cyffredin a doethineb, a hynny mewn amgylchedd gwleidyddol yn ddelfrydol.
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Alun.Cox-AS@Senedd.Cymru

Dyddiad cau: 14 Gorffennaf 2026, 5yp
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau