Cyfle Gwaith: Prif Swyddog Materion Seneddol ar gyfer Anthony Slaughter AS a Paul Rock AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274-£50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 24 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-108-26
Prif ddyletswyddau:
- Gweithio gyda gwasanaethau'r Senedd i ymchwilio i ddeddfwriaeth, polisïau'r llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
- Drafftio cwestiynau, gwelliannau, areithiau a chynigion yn y Senedd.
- Cefnogi datblygiad perthnasoedd â melinau trafod, adrannau'r llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth.
- Cefnogi staff Cyfathrebu i ddrafftio datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y cyfryngau ac allgymorth cyhoeddus.
- Sicrhau bod yr holl allbynnau polisi yn cyd-fynd â nodau gwleidyddol y blaid ac anghenion yr etholaeth.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad sylweddol o ddarparu deunydd ymchwil neu friffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Dealltwriaeth dda o bolisïau’r llywodraeth, deddfwriaeth ddatganoledig a gweithdrefnau'r Senedd.
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, yn enwedig o ran drafftio adroddiadau ac areithiau.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.