Cyfle Gwaith: Rheolwr Cyfathrebu a Gwaith Seneddol ar gyfer Mair Rowlands AS, Elfed Williams AS a Rhun ap Iorwerth AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd, Bae Caerdydd neu Swyddfa Etholaeth - (lleoliad ym Mangor, Llangefni ac ardal Llandudno unwaith bydd swyddfa wedi ei sefydlu)
Cyfeirnod: MBS-104-26
Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos. Mae’r Aelodau sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid/ei phlaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli. Bydd y rôl hon yn rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod.
Rhun ap Iorwerth AS, Mair Rowlands AS ac Elfed Williams AS yw’r aelodau sy’n cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn sydd yn penodi i’r rôl hon.
Diben y swydd:
Bydd Swyddog Cyfathrebu Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil, gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg a'r cyfryngau, yn goruchwylio'r strategaeth gyfathrebu, ac yn rheoli gwaith ymgysylltu proffil uwch. Bydd yn meddu ar arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso i ystod eang o sefyllfaoedd sy’n berthnasol i waith cyfathrebu.
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.
- Gosod y naws a'r cyfeiriad cyffredinol ar gyfer cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethol, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
- Drafftio a mireinio areithiau, erthyglau a briffiau polisi ar gyfer yr Aelod.
- Rheoli staff iau, dirprwyo tasgau, a sicrhau allbwn o ansawdd uchel.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Parodrwydd i feithrin dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
- Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.