Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Iain McIntosh AS

Cyhoeddwyd 30/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/06/2026

Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Iain McIntosh AS

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth, Castell Nedd; gweithio achlysurol yn y Senedd. 
Cyfeirnod: MBS-093-26

Diben y swydd: 

Byddai Swyddog Rheoli a Gweinyddu Busnes Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith rheoli a gweinyddu sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall fod â goruchwyliaeth dros reoli cofnodion, gan sicrhau bod llwybrau archwilio clir mewn perthynas â phob gohebiaeth, bod data’n cael eu prosesu a'u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau, bod atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith, a bod dyraniadau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol, er enghraifft, cymorthfeydd yr Aelod, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu.

Prif ddyletswyddau:

  • Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol.  Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan weithredu fel rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
  • Bod yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
  • Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol. 
  • Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Iain.McIntosh-AS@Senedd.Cymru.

Dyddiad cau: 10 Gorffennaf 2026 am 5yh
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.