Cyfle Gwaith: Rheolwr Swyddfa ar gyfer Mair Rowlands ac Elfed Williams
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaethol – Bangor ac ail swyddfa yn ardal Llandudno unwaith bydd y swyddfa wedi ei sefydlu
Cyfeirnod: MBS-103-26
Sylwer bod y rôl hon yn cael ei hysbysebu fel swydd llawn amser, 37 awr yr wythnos. Mae’r Aelodau sy’n hysbysebu’r rôl wedi ymrwymo i weithio gydag Aelodau etholedig eraill ei blaid/ei phlaid i’r etholaeth maen nhw’n ei chynrychioli. Bydd y rôl hon yn rhannu cyflogaeth rhwng mwy nag un Aelod.
Mair Rowlands ac Elfed Williams yw’r aelodau sy’n cynrychioli etholaeth Bangor Conwy Môn sydd yn penodi i’r rôl hon.
Diben y swydd:
Byddai Swyddog Rheoli a Gweinyddu Busnes Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith rheoli a gweinyddu sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod a gwaith beunyddiol yr Aelod yn esmwyth. Gall fod â goruchwyliaeth dros reoli cofnodion, gan sicrhau bod llwybrau archwilio clir mewn perthynas â phob gohebiaeth, bod data’n cael eu prosesu a'u storio yn unol â deddfwriaeth / rheoliadau, bod atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro llwyth gwaith, a bod dyraniadau’n cael eu blaenoriaethu ar gyfer meysydd gweithgarwch penodol, er enghraifft, cymorthfeydd yr Aelod, gwaith achos neu ddigwyddiadau ymgysylltu.
Prif ddyletswyddau:
- Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol. Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan weithredu fel rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
- Bod yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
- Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt rhwng yr Aelod a Chomisiwn y Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Parodrwydd i feithrin dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn.
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol.
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.