Cyfle Gwaith: Swyddog Cyfathrebu a'r Cyfryngau ar gyfer Niamh Salkeld AS
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Y Senedd, Swyddfa'r Etholaeth a gweithio gartref
Cyfeirnod: MBS-124-26
Prif ddyletswyddau:
- Gweithredu fel y prif gyswllt cyfryngau, gan ymgysylltu â newyddiadurwyr a darlledwyr.
- Rheoli tôn cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth gref o'r fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu ynddynt. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol). Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr ar y materion hyn.
- Yn meddu ar brofiad o dirwedd y cyfryngau ac yn defnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.
- Yn gallu dylanwadu ar agenda'r cyfryngau drwy gynllunio ymlaen llaw yn rhagweithiol ac yn datblygu strategaethau i ddiogelu a gwella enw da. Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau ymdrin â'r cyfryngau, gan gynnwys llunio cynllun cyfathrebu, yn ofyniad allweddol.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch, neu brofiad priodol arall.