Swyddog Cyswllt Cymunedol i Eluned Morgan AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,153 - £38,039
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: Hyd at 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Hwlffordd
Cyfeirnod MBS: MBS-048-24
Diben y swydd:
Rhoi cymorth gweinyddol, etholaethol a seneddol i’r Aelod o’r Senedd, yn ogystal â chymorth gyda chyhoeddusrwydd, gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.
Prif ddyletswyddau:
- Cysylltu ag aelodau o'r Llywodraeth a llywodraeth leol, gwleidyddion eraill a'u staff, llysgenadaethau, comisiynwyr, grwpiau perthnasol sydd â diddordeb, y cyfryngau, sefydliadau perthnasol yn y sector gwirfoddol ac etholwyr
- Ymchwilio i faterion a godir mewn gohebiaeth etholaethol a gwneud gwaith dilynol ar achosion o’r fath, gan sicrhau y cânt eu datrys mewn modd amserol
- Cynnal dyddiadur apwyntiadau’r Aelod, trefnu a chanslo apwyntiadau, a chyfarch ymwelwyr yn ôl y gofyn
- Mynd i gyfarfodydd a/neu ddigwyddiadau gyda’r Aelod o’r Senedd a chynrychioli’r Aelod o’r Senedd yn y gymuned
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa
- Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau, a rheoli swyddfa brysur.
- Gwybodaeth am y materion sy'n berthnasol i'r ardal leol a dealltwriaeth ohonynt.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu
- Gymhwyster NVQ lefel 3 neu 4, neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
- Tystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) Gradd C neu uwch
Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol:
- Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol gan ddefnyddio pecynnau TG fel Word, Excel ac Outlook.
- Y gallu i weithio ar eich liwt ei hun gan gadw at derfynau amser tyn, ynghyd â'r gallu i weithio'n hyblyg ac i ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
- Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl, weithiau mewn sefyllfaoedd heriol.