Vaughan Gething

Vaughan Gething

Cyfle Gwaith: Swyddog Cyswllt Cymunedol i Vaughan Gething AS

Cyhoeddwyd 06/12/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/01/2025   |   Amser darllen munudau

Swyddog Cyswllt Cymunedol i Vaughan Gething AS

Ystod cyflog: (pro rata) £24,243 - £31,798

Disgwylir i'r holl staff newydd ymuno ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa gynyddrannol un pwynt ar y tro bob blwyddyn, ar y dyddiad dechrau eu cyflogaeth, nes iddynt gyrraedd uchafswm y raddfa ar gyfer eu band cyflog.

Oriau gwaith: 14.8 awr (2 ddiwrnod)
Natur y penodiad: Cyfnod Penodol yn diweddu 31 Mawrth 2025
Lleoliad: Tŷ Hywel a Swyddfa'r Etholaeth

Cyfeirnod:MBS-038-24

Diben y swydd

I ddarparu gwasanaeth ysgrifenyddol/cymorth gweinyddol i’r Aelod o’r Senedd gan sicrhau bod safonau cyfrinachedd yn cael eu cynnal.

Gobeithiwn y bydd hwn yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd ddysgu mwy ynglyn â'r prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau a chyfreithiau a sefydlwyd yn y Senedd. Bydd y rôl hefyd yn cynnig cipolwg i mewn i’r math o waith sy’n digwydd mewn swyddfa MS.

Prif ddyletswyddau

Bydd y prif ddyletswyddau’n cynnwys y canlynol (Fel amod o’ch cyflogaeth efallai y bydd gofyn i chi gyflawni dyletswyddau eraill a/neu amseroedd gwaith rhesymol eraill, sy’n gymesur â’ch graddfa neu lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y sefydliad.)

  1. Cynnal system ffeilio, cysylltu papurau blaenorol â gohebiaeth gyfredol, a dod o hyd i ddogfennau ar gais
  2. Ateb y ffôn, cymryd negeseuon ac ymdrin ag ymholiadau a cheisiadau fel sy’n briodol
  3. Didoli post sy’n dod i mewn yn ôl trefn blaenoriaeth a pharatoi atebion drafft i ohebiaeth arferol
  4. Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd

Manyleb y Person

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa, ee systemau llaw a chyfrifiadurol
  • Dealltwriaeth o frwydro yn erbyn gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal, ac Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad i hynny.
  • Gwybodaeth am faterion sy’n ymwneud â’r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt.

Cymwysterau hanfodol

  • Gweithio tuag at gymhwyster ffurfiol mewn pwnc cysylltiedig, neu;
  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd amlwg e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol) gradd C neu’n uwch.

Sgiliau ac ymddygiadau hanfodol

  • Sgiliau trefnu a chynllunio effeithiol
  • Y gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac i derfynau amser tyn, gyda’r gallu i weithio’n hyblyg ac i ymdopi ag amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd
  • Sgiliau rhyngbersonol effeithiol a’r gallu i ymdrin ag amrywiaeth o bobl

Dymunol

  • Dealltwriaeth o faterion cyfoes a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a’r ardal leol, a diddordeb yn system wleidyddol Cymru
  • Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg
  • Yn arddel nodau a gwerthoedd y Blaid

Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon

Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Vaughan.Gething@Senedd.Cymru

Dyddiad cau: 12:00, 10 Ionawr 2025

Dyddiad cyfweliad: 20 Ionawr 2025