Cyfle Gwaith: Swyddog Seneddol ar gyfer Grŵp Plaid Cymru
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-118-26
Prif ddyletswyddau:
- Cynorthwyo'r Pennaeth Staff gyda dyletswyddau gweinyddol yn ymwneud â gwaith y Grŵp – trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau a mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl yr angen, rheoli cofnodion a systemau'r Grŵp, a safon uchel o weithgaredd cysylltiedig ag archwilio
- Cynorthwyo gyda busnes seneddol – paratoi areithiau, cwestiynau, briffiau ac ymatebion polisi stoc yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo gydag amcanion cyfathrebu'r Grŵp – paratoi datganiadau i'r wasg, llinellau i’r cyfryngau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ôl yr angen.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Sgiliau dadansoddi ac ymchwil da gyda'r gallu i ddrafftio ymatebion polisi ac ymdrin ag amrywiol ohebiaeth.
- Profiad o weithio mewn timau, gyda'r gallu i gydlynu staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn effeithiol.
- Meddu ar rywfaint o brofiad o dirwedd y cyfryngau ac o ddrafftio datganiadau i'r wasg, llinellau cyfryngau a chynnwys cyfryngau cymdeithasol.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.
- Cymhwyster proffesiynol neu academaidd priodol neu brofiad cyfatebol.