Janet Finch Saunders

Janet Finch Saunders

Cyfle Gwaith: Swyddog Ymchwil a Chyfathrebu i Janet-Finch-Saunders AS

Cyhoeddwyd 04/06/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/06/2024   |   Amser darllen munudau

Swyddog Ymchwil a Chyfathrebu  i Janet Finch-Saunders AS

Ystod cyflog: £26,153 - £38,039 pro rata

(Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.)

Oriau gwaith: 29.6 awr 

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Ty Hywel, Bae Caerdydd

Reference: MBS-009-24

Diben y swydd:

Arwain o ran darparu ymchwil, dadansoddiadau a phapurau briffio o ansawdd uchel i'r Aelod ar ystod eang o bynciau.  Gallai hyn olygu pynciau nad yw'r deiliad swydd yn gyfarwydd â hwy.

Prif ddyletswyddau

Cefnogi’r Aelod o’r Senedd i ymgysylltu’n effeithiol â sefydliadau a chymunedau ar draws yr etholaeth, a hynny wrth weithio gyda chydweithwyr i ddatrys gwaith achos mewn modd amserol.

  • Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
  • Cysylltu ag aelodau o'r Llywodraeth a llywodraeth leol, pencadlysoedd y pleidiau, gwleidyddion eraill a'u staff, llysgenadaethau, comisiynwyr, grwpiau perthnasol sydd â diddordeb, y cyfryngau, sefydliadau perthnasol y sector gwirfoddol ac etholwyr.
  • Sicrhau y caiff yr Aelod o’r Senedd wahoddiadau rheolaidd i gwrdd ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau a sgwrsio â nhw a sicrhau y caiff ymweliadau eu cofnodi ar gronfa ddata.
  • Paratoi a threfnu areithiau a chwestiynau ar gyfer y Cyfarfod Llawn.
  • Cydgysylltu ag aelodau eraill o staff i gynnal dyddiadur apwyntiadau ar gyfer yr Aelod.

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

  • Rhywfaint o brofiad o waith gweinyddol a gwybodaeth am systemau swyddfa.
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
  • Sgiliau TG effeithiol, yn enwedig wrth ddefnyddio pecynnau Microsoft fel Word, Outlook ac Excel.

Cymwysterau Hanfodol:

  • Sgiliau rhifedd a llythrennedd y gellir eu dangos e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth) Gradd C neu'n uwch.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais (mae CV yn ddewisol) at Mostyn.Jones@senedd.wales 

Dyddiad cau: 12:00 (canol dydd), 30 Mehefin 2024. 

Dyddiad cyfweliad: I’w gadarnhau