Cyfle Gwaith: Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ar gyfer Mair Rowlands AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 - £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Bangor
Cyfeirnod: MBS-182-26
Prif ddyletswyddau:
- Nodi a chefnogi ymgyrchoedd, mentrau ac achosion lleol sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Aelod.
- Hwyluso ymgysylltiad rhagweithiol rhwng swyddfa'r Aelod, etholwyr a rhanddeiliaid lleol.
- Ysgrifennu cylchlythyrau, diweddaru’r wefan, ac erthyglau blog.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth o faterion cyfoes a materion sy'n berthnasol i Gymru a'r ardal leol.
- Gwybodaeth am sut i gyfathrebu'n broffesiynol ag ystod eang o randdeiliaid.
- Profiad a dealltwriaeth ymarferol o'r gyfraith ac arfer da mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor gan berson cymwys.
- Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.